Hybu diddordeb yng ngwaith a bywyd Thomas Price (1787-1840) yw nod Cymdeithas Carnhuanawc.
Hefyd ceisia feithrin gwybodaeth o hanes Cymru. Roedd Carnhuanawc sef enw barddol
Thomas Price yn ffigwr amlwg ym mywyd diwyllianol Cymru yn hanner cyntaf y bedwaredd
ganrif a’r bymtheg.
O’i gartref yn Llanfihangel Cwm-du ym Mrycheiniog ble roedd yn offeiriad y plwyf,
ysgrifennai at ddeallusion led led Ewrop a theithiodd yn eang drwy Brydain ac Ewrop
yn chwilio am wreiddiau Celtaidd ei bobl. Roedd ganddo ddiddordeb yn lles diwyllianol
ac ysbrydol ei gefndryd a’i gyfneitherod Celtaidd, y Llydawyr, a dysgodd Lydaweg.
Cydweithiodd gyda Le Gonidec i gyfieithu’r Beibl i’r Lydaweg. Roedd hefyd yn ffrind
agos i Villemarque (“Kervarker”) ffigwr llenyddol o bwys yn Llydaw ar y pryd, a chasglwr
a golygydd “Barzaz Breiz”. Gwahoddodd ef i amryw o Eisteddfodau tra llwyddiannus
yn Y Fenni ynghyd â sawl arweinydd diwylliannol a diplomataidd o bwys o Ewrop a thu
hwnt.
Mae’n wir dweud y rhoddodd Carnhuanawc yn nôl i’r Gymry yr ymdeimlad o’u lle
mewn hanes, ac yn y byd. Parha ei fywyd i ysbrydoli pobl Cymru i ymladd am ymwybyddiaeth
ehangach o’u hunaniaeth ac am barch teilwng i’w hiaith a’u diwylliant.